Bwriad y Cwrs – I gynnig i’r cyfranogwyr y sgiliau a’r wybodaeth i ddeall sut i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed. Deilliannau Dysgu ➢ Gwell dealltwriaeth o’r broses a system amddiffyn plant ➢ Sut i adnabod yr arwyddion o gamdriniaeth yn y cartref ➢ Sut i reoli datganiadau o gamdriniaeth ➢ Sut i allu adnabod cydymffurfiaeth cuddiedig mewn rhieni sydd yn cydweithredu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ➢ Yr arwyddion o ecsbloetio plant yn rhywiol ➢ Sut i adnabod salwch ffug Manylion am yr Hyfforddwr –Mae Paul Jones yn Weithiwr Cymdeithasol Annibynnol hefo profiad helaeth o weithio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, NSPCC ac ysgolion uwchradd. I sicrhau eich lle, cofiwch gysylltu drwy e-bost, neu llogwch eich lle drwy linc Eventbrite Cinio ar gael
Nôd y cwrs – Cyflwyniad i raglen ‘Caring Dads’ ac i drafod defnyddwyr gwasanaeth addas i’w cyfeirio i’r rhaglen. Ymroddir rhaglen Caring Dads i sicrhau diogelwch a lles plant drwy weithio gyda thadau sydd wedi cam-drin ac esgeuluso eu plant. Yn ogystal mae Caring Dads yn gweithio â thadau sydd wedi cam- drin mamau ym mhresenoldeb eu plant. Rhaglen yw Caring Dads sy’n canolbwyntio ar les penodol y plentyn. Ffocws rhaglen Caring Dads yw: ➢ Cynorthwyo dynion i adnabod agweddau ac ymddygiadau positif a negyddol wrth feithrin perthynas rhwng tad a phlentyn. ➢ Datblygu sgiliau rhyngweithiol gyda phlant mewn dull positif. ➢ Ysgogi dealltwriaeth ac effaith mae ymddygiad bygythiol, sarhaus ac esgeulus yn cael ar blant. Ymchwilio beth yw effaith tadau sydd wedi cam-drin mamau ym mhresenoldeb eu plant. I hawlio eich lle ar y cwrs uchod cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda ar:- 01248 750903 neu gorwel@gorwel.org neu drwy Eventbrite –

Mae Paul Jones yn medru cynnig sgiliau rhianta mewn sesiynau un-i-un gyda rhieni, teidiau a neiniau, rhieni mabwysiedig neu ofalwyr maeth.
Nod y cwrs hwn yn rhoi sgiliau, strategaethau a gwybodaeth i weithio gyda rhai sy'n Chyflawnwyr Trais yn y Cartref.